Dyddiadur y Sêr (Stanislaw Lem)

Mae pethau wedi bod yn brysur iawn dros y misoedd diwethaf, felly rwy’n gobeithio y bydd mwy o amser i flogio’n gyson yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.  I gicio pethau bant, felly, dyma adolygiad o gasgliad o straeon gan un o gewri Pwyleg y genre:

Casgliad anghyflawn o nifer o deithiau’r gofodwr Ijon Tichy yw ‘The Star Diaries‘ gan Stanislaw Lem.  Yn gyson ag arferiad Lem, a ysgrifennodd nifer o glasuron sf Pwyleg (gan gynnwys yr enwog ‘Solaris’, er nad oedd yn hapus iawn a’r cyfieithiad Saesneg na’r ddau addasiad ffilm) maen nhw’n gymysgedd o hiwmor absẃrd, ddychan ac ambell i ddadl athronyddol.  Ysgrifennwyd y straeon dros gyfnod hir yng ngyrfa’r awdur, ac felly mae’r cymysgedd o’r elfennau yma yn amrywio o stori i stori — mae’r elfennau athronyddol yn fwy amlwg yn y straeon hwyrach.

Nid sf ‘caled’ [1] yw’r rhain o gwbl; fyddai chwilio am fanylion gwyddonol cywir (neu hyd yn oed lledgywir) yn hala’r darllenwr druan yn wallgof [2] — mae gan Lem faterion arall ar ei feddwl.  Yn hytrach, mae’r sawl stori sydd ag amcan mwy difrifol yn defnyddio elfennau ffantastig a ddoniol i gynnig sylwebaeth wawdlyd ar natur dynoliaeth a’n perthynas gyda’r bydysawd.  Mae’n debyg i fersiwn llai paranoid o Phillip K. Dick, ond mae ei safon lenyddol yn fwy cyson.  (Dick oedd yr unig awdur sf Americanaidd roedd Lem yn parchu yn ôl bob sôn, ac wrth ddarllen Lem mae’n bosib gweld pam.)

Uchafbwynt y casgliad difir yma i fi oedd hanes y 21af daith.  Yn y stori yma geir allosodiad cyson a rhesymegol o bron bob dadl ‘gwreiddiol’, syfrdanol sy’n cael ei bloeddio gan ambell i awdur o sf uwchddynol [transhuman] modern sy’n adeiladu at ddiweddglo trawiadol mewn llai na 65 tudalen (yn lle nofel neu gyfres o nofelau cyflawn) [3].  Mae yna hanes hir i bron bob tueddiad mewn ffuglen wyddonias, a fyddai’n od iawn petai feddwl aflonydd, uchelgeisiol Lem heb ystyried syniadau o’r fath.  Mae’n gasgliad o straeon, felly, sydd werth ei ddarllen.

[1] Hard sf: yn fras, ffuglen wyddonias sy’n ceisio canolbwyntio ar gywirdeb gwyddonol.  Fel mae’r anrhydeddus James Nicholl wedi sylwi ar sawl adeg, ‘ceisio’ yw’r gair pwysig fan hyn…

[2] Mae yna ambell i gliw sy’n awgrymu nad yw Tichy yn adroddwr hollol onest mewn rhai o’r straeon, ond sai’n siŵr os fyddai hyn yn helpu.

[3] Wrth gwrs, mae nifer o’r syniadau yma wedi bod o gwmpas am gyfnod hir iawn. Ac i fod yn deg, efallai fy mod fy syniad o sf uwchddynol fel rhywbeth newydd (h.y. olynydd i seiberpync) yn argraff annheg sydd wedi tyfu o ddadlau tanbaid ar y rhyngwyd — roedd sawl o’r awduron ar y rhestr yma yn ysgrifennu yn ystod y 50au i’r 70au neu’n gynharach…

Advertisements

Yr Efengylau Yscarlad

Rwy ‘di bod yn ffan o waith Clive Barker am flynyddoedd.  Ymysg y casgliad o straeon arswyd trawiadol  (The Books of Blood) a’r ffantasïau od, dyfeisgar (Imajica, Weaveworld, The Great and Secret Show) mae yna un nofela sydd wedi profi yn ddylanwadol tu hwnt: The Hellbound Heart.  Dyma’r nofel oedd yn sail i’r ffilm Hellraiser, un o’r ffilmiau arswyd mwyaf eiconig y 80au, a’i dilyniannau sydd — heblaw am yr ail ffilm — yn fwyfwy siomedig ac ad-leisiol wrth i’r gyfres mynd yn ei flaen.  Rwy’n hoff iawn o’r ffilm wreiddiol, ac rwy’n hoffi’r nofela yn fwy fyth.  Fel canlyniad, roeddwn i’n edrych ymlaen at ddarllen The Scarlet Gospels.

Mae’n amlwg taw ddilyniant thematig (yn hytrach i ddilyniant llythrennol) i’r ffilmiau yw’r nofel yma: mae’r Offeiriad Uffern (‘Pinhead’) yn gythraul mwy confensiynol nag oedd yn y nofela, un sy’n byw yn Uffern ac sy’n rhyw fath o demtiwr traddodiadol yn hytrach nag aelod o dylwyth o fodau arallfydol gyda dealltwriaeth estron o bleser cnawdol.  Dyma rywbeth sy’n cael ei sefydlu yn y pedwaredd ffilm (o beth rwy’n cofio — a sai’n mynd i wylio’r peth, um, uffernol ‘na eto er mwyn wneud yn siŵr) [1]; diw’r nofela byth yn eglur ynglŷn â beth yn union yw aelodau Urdd y Clwyf.

Felly, ydi’r nofel yma cystal â’i rhagflaenydd?  Yn anffodus, na.  Mae’n edrych fel modd i bennu mythos y ffilmiau ac yn y blaen yn gyfan gwbl yw’r nofel yma, gan ei fod erbyn hyn yn dipyn o faich creadigol i Barker.  Pe byddai’r nofel wedi parhau a’i ddechreuad cryf, perfeddol, ni fyddai hyn yn broblem, ond yn anffodus, efallai oherwydd salwch difrifol Barker yn ystod ei ysgrifennu, mae’n nofel anghyson ei safon.  Mae yna rhai golygfeydd sydd naill ai a’r wefr neu’r tueddiad gweledigaethol sy’n hanfod o’i ffuglen gynnar  (fel y disgrifiad o’r diafol yn dychwelyd i’r ddaear tuag at ddiwedd y nofel, neu o fawsolëwm enfawr Liwsiffer), ond ar y cyfan, brasluniau yw’r rhan fwyaf o olygfeydd, gan gynnwys cymeriadau sy’n rhy gwan i gydio ar y darllenydd [2].

Ar y llaw arall, mae’n dda i weld Barker yn ysgrifennu unwaith eto, hyd yn oed os nad yw’r nofel yma cystal â’i waith orau.  Gobeithiaf y gall Barker ailgydio yn llawn ar ei awen am eildro yn y dyfodol — mae’r arwyddion o’i bresenoldeb dal yno — ond mae’r nofel yma yn fwy o fethiant na lwyddiant.

[1] Ond yn y nofel yma does dim sôn o’r Lefiathan neu’r Labrinth, dau o’r pethau oedd yn wneud yr ail ffilm mor ddiddorol ac unigryw.  Uffern gonfensiynol yw uffern The Scarlet Gospels, ond heb angerdd Dante neu Milton i’w chynnal.

[2] Mae yna elfennau transffobaidd yn rhai o’r golygfeydd cynnar hefyd, sy’n siomedig.

 

Hysbyseb bach

Nodyn cyflym i’r ddau neu dri pherson sy’n darllen y blog yma yn gyson ac sy’ ddim yn gwybod yn barod: os oes gennych rywfaint o ddiddordeb gennych mewn ffuglen wyddonol yn gyffredinol, mae’n bosib y bydd adolygiadau Elidir ar FideoWyth o rhai o glasuron Gymraeg y genre o ddiddordeb.

Yn anffodus, nid yw’r rhan fwyaf ohonynt mewn print, felly sai’ ‘di ddarllen nhw, ond mae’r gwaith o ddod o hyd i, darllen a thrafod hen nofelau’r genre yn rhan bwysig o greu’r amgylchiadau cywir ar gyfer adfywio  ffuglen gwyddonias yn y Gymraeg, felly rwy’n falch bod yna rhywun sydd yn gwneud hyn!

10 o fy hoff nofelau sf 4: Slow River

“We all have wounds.  We all get hurt.  But self-pity, lack of courage, leads to a sort of… mortification of the soul.  Corruption.  And then it takes more courage, costs more pain, to clean it up afterwards.”

Mae Lore yn ugain mlwydd oed.  Mae ganddi ddyfais adnabyddi personol newydd, ffug, ac mewn ymdrech i gefnu ar ei hen fywyd ac adeiladu rhywbeth gwell o drychinebau’r blynyddoedd diweddar, mae hi wedi dechrau swydd fel technegydd mewn gweithfa adennill dŵr.  Ond mae ei goruchwyliwr yn bwgwth miloedd o fywydau trwy dorri corneli er mwyn arbed arian — a yw’n bosib iddi gweithredi i atal hyn heb ddatguddio ei chyfrinachau?

Mae Lore yn ddeunaw mlwydd oed.  Mae’n dianc o’i herwgipwyr i strydoedd oer a gwlyb ddinas ddienw rhywle yn Lloegr.  Cyn iddi farw o golled gwaed neu oerfel mae’r lleidr a thwyllwraig Spanner yn ei hachub.  Nid yw Spanner yn wneud dim heb fynnu pris o ryw fath, a nawr mae Lore yn ddyledus iddi…

Mae Lore yn saith mlwydd oed.  Sefydlwyd cyfoeth ei theulu ar batentau ynglŷn â chynnal a chreu’r bacteria sy’n sylfaenol i brosesau adennill dŵr modern.  Mae’n anwybodol o’r cyfrinachau tywyll a’r diffyg cyfrifoldeb sy’n cysgodi y tu ôl i’w bywyd moethus.  Ond ni fydd y diniweidrwydd yma yn para am hir.


Mae ‘na ryw elfen letchwith ynof sy’n wneud i mi gategoreiddio Slow River fel nofel seiberpync, er ei fod yn wahanol iawn i sawl nofel o’r fath (ac yn wahanol iawn i’r syniad poblogaidd o seiberpync — ond mae hyn hefyd yn wir am waith George Alec Effinger, er enghraifft).  Efallai daw’r tueddiad yma’n o’r pryd y cyhoeddwyd y nofel — tua 1996, pan oeddwn i’n dueddol i feddwl am seiberpync fel ‘y peth’ cŵl yn ffuglen wyddonol [1], ac felly oherwydd bod Slow River yn gŵl iawn mae’n rhaid taw nofel seiberpync oedd o…

Ta beth, mae ganddo elfennau yn gyffredin â nofelau seiberpync: byw bywyd tu fas i strwythurau cymdeithas gyffredin, llygredd corfforaethol, effeithiau technoleg gwybodaeth ar gymdeithas — hyd yn oed elfen plot sy’n ymwneud â hacio a bach o fyrgleriaeth, ond nid yr elfennau allanol yma sy’n hollbwysig i’r nofel yma.  Na, fel mae Tricia Sullivan yn sylwi yn ei rhagair i’r gyfrol newydd, stori sy’n bennaf am gymeriad yw hwn, cymeriad a’i pherthynas â chymdeithas, cymeriad sy’n ail-greu ei hun fel unigolyn wrth iddi ddarganfod gwir natur y systemau o rym o’i hamgylch.  Ysgrifennwyd y ddau naratif sydd yn gronolegol yn gynharach  yn y trydydd person a’r un diweddarach — lle mae Lore yn darganfod ei hasiantaeth ac yn derbyn cyfrifoldeb am ei gweithrediadau niweidiol o dan ddylanwad Spanner —  yn y person cyntaf, fel petaent yn straeon am dair Lore hollol wahanol.  Nid yw’r argraff yma yn hollol anghywir. Ac er ei fod yn ymdrin â materion tywyll, sef cam-drin emosiynol a rhywiol, yn y pendraw mae’n nofel optimistaidd. Mae’n bosib llwyddo yn wyneb trychinebau personol.  Mae’n bosib goroesi.  (Ond eto — mae yna elfen o lwc fan hyn.  Wrth gymharu â’i chwiorydd, mae Lore yn lwcus tu hwnt.  Wrth gymharu â phob cymeriad ar wahân i’w teulu, mae Lore yn lwcus iawn.  Ambell waith, mae’n anodd gwahanu rhwng canlyniadau amgylchiadau a nodweddai cymeriad wrth farnu cyfrifoldeb unigolyn am ei gweithrediadau.)

Gellir disgrifio un fath o ffuglen wyddonol fel casgliad o ‘ffantasiâu o asiantaeth wleidyddol’, yn eiriau Lois McMaster Bujold, ac er  does yna drawsnewidiad allanol — gwleidyddol, cymdeithasol na technolegol — yn ystod y stori, dadleuaf taw nofel gwyddonias o’r math yma yw Slow River: mae’r syniad taw’r personol yw’r gwleidyddol ond yn ystrydeb oherwydd ei wirionedd.  Trwy ei thriniaeth realistig o gymeriad, gyda defnydd dawnus o drosiadau ecolegol a thechnegol i gyfleu natur gymdeithas, mae Griffith yn llwyddo i greu’r fath o bortread o fyd a’i drigolion y gwelwyd mewn sawl nofel swmpus o’r 19eg ganrif, ond mewn llyfr llawer byrrach.  Mae’n anodd i mi gor-ganmol y nofel yma.

[1] Wrth gwrs, roedd yr is-genre wedi crebachu erbyn hynny, ond yn yr hen ddyddiau cyn y rhyngrwyd doedd dim siawns i mi gael gwybod hyn.

10 o fy hoff nofelau sf 3: Gardens of the Sun

Mae gen i gopi o fron bob un o nofelau Paul McAuley, heblaw’r un newydd [1] a’r sawl sydd allan o brint ar y foment, ac mae’n un o fy hoff awduron. Yn wir, am gyfnod hir, wedi i mi syrffedu rhywfaint ar waith Greg Egan, fo oedd yr unig awdur o sf ‘caled’ i mi ddarllen yn gyson tan i mi ddarganfod nofelau Alaistair Reynolds.  Fel canlyniad, mae’n rhaid bod un o’i lyfrau ar y rhestr yma yn rhywle!

Olynydd i The Quiet War yw Gardens of the Sun; yr ail mewn cyfres o bedwar (y nofelau eraill yw In the Mouth of the Whale ac Evening’s Empires).  Mae’r hanes yn ddechrau yn fuan wedi i ddiweddglo’r nofel gyntaf, gyda disgrifiad o ganlyniadau’r rhyfel ar ymylon cysawd yr haul: trechwyd yr Ymylwyr [Outers] — disgynyddion o’r rhai a fu’n ffoi o’r trychineb amgylcheddol a wnaeth dymchwel hen wladwriaethau’r Ddaear — gan y Tri Awdurdod sydd nawr yn rheoli’r fam-planed, tra methwyd y ddewines geneteg Sri Hong Owen i herwgipio Avernus, biolegydd fwyaf dawnus yr Ymylwyr, ar gyfer ei feistri ym Mrasil Fawr.  Ond o’r Tri Awdurdod, Brasil Fawr, sydd yn teyrnasu dros holl gyfandir yr Americas mewn modd awdurdodol a llygredig, mae’r buddugoliath yma yn ormod.

Ac o ran datblygiad y plot, cwymp llywodraeth Brasil Fawr yw un o nodweddion mwyaf diddorol y nofel yma.  Mae’n eithaf cyffredin i straeon gwyddonias — yn enwedig straeon ‘Space Opera’ sy’n cynnwys elfennau pwlp yn eu DNA — anwybyddu’r rôl mae strwythur cymdeithasol a gwleidyddol yn chwarae mewn chwyldroadau, gan honni fod gweithgareddau rhyw unigolyn arwrol, dewisedig  yn ddigonol i chwalu gwladwriaeth ffiaidd ac adeiladu rhywbeth newydd, gwell o’r gweddillion.  Nid yw hyn yn wir am y nofel yma: tra bod gweithgareddau ei gymeriadau yn bwysig er mwyn sicrhau’r fath o ddyfodol sy’n wynebu trigolion y cysawd, mae’n bendant yn wir na fyddai unrhyw siawns o gyflwyno diweddglo llwyddiannus heb y datblygiadau newydd a niweidiol ym Mrasil Fawr, datblygiadau sy’n tyfu nid yn unig o’i lwyddiant yn y Rhyfel Tawel, ond o’r gwendidau parhaol yn ei llywodraeth.  Mae hyn yn gyson a sawl ddigwyddiad o’r fath yn ein hanes cyfoes a chynharach, er nad oedd pob canlyniad mor hapus â chanlyniadau’r nofel yma.  Ond nofel am obaith yw’r nofel yma, ac fe fyddai’n annheg i’w beirniadu oherwydd ei fod yn obeithiol.

Er y pwyslais yma ar faterion strwythurol,  ni fyddai’r nofel yn gweithio heb ei brif gymeriadau: Sri Hong Owen, sy’n ceisio ymdopi â methiant ei chynllwyn yn erbyn Avernus; Cash Baker, sydd yn darganfod nad yw bywyd fel un o arwyr y rhyfel ac elfen yn bropaganda milwrol ei wlad cystal ag oedd yn meddwl; David, y clôn a chyn-ysbïwr dros Frasil Fawr, sy’n chwilio am ei gariad; Loc Ifrahim, y biwrocrat anfoesol, llygredig; a Macy Minnot, cyn-beiriannydd biolegol oedd yn gweithio i un o deuluoedd Brasil ac sydd nawr yn ffoi gyda gweddillion yr Ymylwyr rhydd i ardaloedd pell y cysawd.  Mae eu hanes cyffrous yn datblygu dros flynyddoedd hir, ac erbyn y diwedd roedd gennyf hyd yn oed rhywfaint o gydymdeimlad dros Ifrahim (sy’n dipyn o gamp, oherwydd mae ganddo law mewn sawl gweithgaredd ffiaidd tŷ hwnt).

Dyma bortread o gyfnod trawsnewidiol yn fydysawd y gyfres, sy’n taflu cysgod hir dros y nofelau sy’n dilyn.  Gellir dadlau fod yr obaith sy’n lledu trwy’r nofel yn effaith o ymwybyddiaeth McAuley ynglŷn â ble i orffen adrodd ei hanes, oherwydd does dim byd yn parhau yn ddiddiwedd, ac mae McAuley yn perthyn i’r traddodiad o ffuglen wyddonol sy’n ymwybodol iawn o hyn.   Ac er nad yw’r stori mor meta-ffuglenol a In the Mouth of the Whale, sy’n creu effaith o amwyster ynglŷn â gwir ddigwyddiadau’r nofel sydd cystal â’r amwysterau tebyg mewn sawl darn gan Cordwainer Smith a Gene Wolfe, mae’n anodd osgoi’r casgliad taw pwrpas y drafodaeth sy’n digwydd tua hanner ffordd trwyddo rhwng Macy a’i chariad o naratif a natur straeon yw i dynnu ein sylw at faterion o’r fath.  Wedi i ddiweddglo Evening’s Empires, mae cysawd yr Haul wedi dianc o gysgod digwyddiadau’r Rhyfel Tawel i mewn i gyfnod o farweidd-dra cymdeithasol a wyddonol, ond mae’n hefyd yn glir fod yna posibiliad o adnewyddiad: hadau o obaith a gwybodaeth o dan ofal y prif gymeriad a’i griw.  Er bod yna terfyn ar bopeth, mae yna siawns o greu rhywbeth newydd o’r weddillion.  Rhywbeth i’w cofio dros y dyddiau (misoedd? blynyddoedd?) stormus, tywyll sydd i ddod, efallai.

[1] Nodyn i DDO: cofiwch prynu’r nofel newydd gan Paul McAuley.